Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod PentrePeryglon® wedi ymrwymo i Addewid Cydraddoldeb BusnesCymru!
Mae’r Addewid Cydraddoldeb yn annog busnesau a sefydliadau yng Nghymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at greu gweithleoedd sy’n gynhwysol, yn deg ac yn amrywiol, gan ddangos ymrwymiad nid yn unig i’w gweithwyr, ond hefyd i’r gymuned ehangach.
Fel elusen, rydym yn falch o gefnogi’r fenter hon, ac rydym wedi ymrwymo i helpu i greu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cynnwys.