Ein Taith Gynaliadwyedd

 

Ein Taith Gynaliadwyedd

Yma yn MentrePeryglon, rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol wrth barhau i ddarparu gwasanaethau gwerthfawr i’n cymuned. Mae cynaliadwyedd yn daith barhaus, ac rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd o weithredu’n fwy effeithlon a chyfrifol.

Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy

Un o’n prosiectau cynaliadwyedd mwyaf arwyddocaol fu gosod:

38 o baneli ffotofoltäig (PV) solar a 5 uned storio batri, gyda chyfanswm capasiti storio o 30kWh. Mae’r buddsoddiad hwn yn ein galluogi i gynhyrchu a storio ein trydan adnewyddadwy ein hunain, gan helpu i leihau ein dibyniaeth ar y grid a lleihau ein hallyriadau carbon.

Drwy gynhyrchu ynni glân ar y safle a storio pŵer dros ben i’w ddefnyddio pan fo ei angen fwyaf, rydym yn gwella ein gwydnwch ynni wrth leihau costau gweithredu. Yn ein blwyddyn lawn gyntaf o gynhyrchu ynni, gwnaethom arbed dros £5,000 mewn costau trydan ac allforio dros £1,400 gwerth o drydan. Gellir ailgyfeirio’r arbedion hyn i gefnogi ein hamcanion elusennol a’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Hyd yma, mae ein hallyriadau carbon wedi gostwng 39 tunnell.

Yn ogystal â’n buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy, rydym wedi cymryd camau eraill i leihau ein heffaith amgylcheddol:

  • Gwnaethom leihau’r defnydd o ynni ledled y ganolfan drwy ddisodli’r holl oleuadau â rhai LED a thrwsio neu ddisodli ffenestri diffygiol.
  • Gwnaethom osod dau foeler nwy ynni-effeithlon yn lle ein hen system. Nid oes gennym fynediad at nwy’r prif gyflenwad, felly roedd ein dewisiadau gwresogi yn gyfyngedig.
  • Rydym wedi lleihau gwastraff a chynyddu lefelau ailgylchu.
  • Rydym wedi lleihau’r defnydd o bapur drwy ddefnyddio systemau digidol. Un enghraifft yw ein ffurflenni adborth athrawon, sydd bellach yn cael eu cwblhau drwy Microsoft Forms.
  • Rydym yn sicrhau ein bod yn prynu nwyddau a gwasanaethau’n gyfrifol. Er enghraifft, pan oedd angen adnewyddu ein dyfeisiau pleidleisio llaw, dewiswyd dyfeisiau y gellir eu hailwefru yn hytrach na’r fersiynau blaenorol a oedd yn defnyddio batris untro. Gwnaethom hefyd wneud penderfyniadau ymwybodol i ddewis yr offer mwyaf ynni-effeithlon pan oedd angen eu disodli.
  • Datblygwyd gêm ailgylchu newydd ar gyfer ein hymwelwyr lle mae ein cymeriad, K-os, angen help y plant i gasglu a didoli gwastraff er mwyn pweru ei roced yn ôl adref. Mae hyn wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda phlant a phobl ifanc. Gan fod rhai ysgolion wedi gofyn am fwy o negeseuon ynghylch newid hinsawdd, datblygwyd prosiect o’r enw ‘Gweithredu!’ i gyflwyno addysg am newid hinsawdd i ysgolion gan ddefnyddio senarios presennol y ganolfan.
  • Rydym yn annog arferion sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ymhlith staff, plant ac ymwelwyr.

Edrych Ymlaen

Hoffem hefyd ehangu ein prosiect ‘Geithredu!’ drwy greu mwy o arddangosfeydd pwrpasol ar newid hinsawdd i helpu plant i ddeall yr heriau rydym yn eu hwynebu a sut y gallant helpu.

Mae’n her sicrhau tymheredd addas yn ein hardal dderbynfa, y siop a’r senario rhyngrwyd gan fod y to a’r rhan fwyaf o’r waliau wedi’u gwneud o wydr. Hoffem osod pympiau gwres ffynhonnell aer yn yr ardal hon er mwyn gwneud defnydd o’r pŵer a gynhyrchir gan ein paneli solar a gwneud yr ardal yn fwy cyfforddus drwy gydol y flwyddyn. Byddent yn darparu gwres yn y gaeaf ac yn gweithredu fel system aerdymheru yn yr haf.

Rydym yn cydnabod bod cynaliadwyedd yn daith yn hytrach na chyrchfan. Yn ogystal â’n rhestr ddymuniadau bresennol, mae ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys parhau i fonitro perfformiad ein system solar a storio batris, nodi cyfleoedd pellach i leihau ein heffaith amgylcheddol, a pharhau i fuddsoddi mewn atebion sy’n fuddiol i’n cymuned a’r amgylchedd.


http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com