Cymorth Corfforaethol

Rydym yn elusen hen sefydlu ac mae partneriaethau gyda’r sector preifat yn rhan annatod o’n gwaith.

Gan fusnesau lleol i gorfforaethau amlwladol, mae cwmnïau yn dewis i gefnogi gwaith cadarnhaol ac ysbrydoledig PentrePeryglon, gyda budd y ddwy ochr i’r ddau bartner.

————————————————————————————————————————————————————————-

Pam cefnogi PentrePeryglon?

  • Mae PentrePeryglon yn ganolfan diogelwch a gydnabyddir yn genedlaethol ag aelodau o’r gymuned amlwg ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr.
  • Bob blwyddyn rydym yn addysgu dros 7,000 o blant a phobl ifanc am sut i gadw’n ddiogel.
  • Bydd 100% o’ch cefnogaeth yn mynd yn uniongyrchol tuag at yr elusen.
  • Adeiladu perthynas barhaol yn cefnogi elusen leol.
  • Gweithio gyda thîm profiadol i ddatblygu partneriaeth pwrpasol.
  • Rhannu yn ein hethos a chael gwerthoedd sy’n cyd-fynd â’n rhai ni.

    ————————————————————————————————————————————————————————-

A fyddech chi’n hoffi cymryd rhan? Yr ydym yn brofiadol mewn teilwra partneriaethau i weddu i amcanion cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol eich cwmni – cysylltwch ag un o’r tîm ar 01745 850414


Sut y gallwch chi cefnogi PentrePeryglon?

Dyma rhai syniadau ynghylch sut y gallai eich busnes gymryd rhan;

Yn Ariannol:

  • Gwnewch gyfraniad uniongyrchol
  • Noddi ardal / senario yn y Ganolfan
  • Noddi deunyddiau dysgu
  • Defnyddio PentrePeryglon i llogi lleoliad / gyfleuster
  • Noddi ysgol neu nifer o ysgolion yn eich cymuned

Mewn Nwyddau:

  • Cefnogi PentrePeryglon gyda gweithgareddau codi arian. Er enghraifft, enwebu PentrePeryglon fel eich elusen y flwyddyn neu gynnal digwyddiad codi arian blynyddol.
  • Cefnogi mewn da e.e. roi offer (lleihau gwastraff), adnoddau neu amser staff.
http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com