Canolfan addysg sgiliau bywyd yn hysbysu’r genhedlaeth nesaf! Croeso i PentrePeryglon! Rydym yn elusen annibynnol yn Nhalacre, Gogledd Cymru. Rydym yn cynnig diwrnod allan gwych i’r teulu cyfan ar ein Helfa Ditectif Dirgel a theithiau addysgol i ysgolion a grwpiau wedi’u trefnu.
Mae PentrePeryglon wedi cael ei gynllunio i ysbrydoli, hysbysu ac ymgysylltu â’r grwpiau. Mae’n ffordd ardderchog o addysgu’r gymuned mewn sgiliau bywyd hanfodol. Ers agor ym mis Hydref 2005, rydym wedi addysgu dros 120,000 o ymwelwyr ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu llawer mwy.