Rydym ar agor i’r cyhoedd yn ystod ein gwyliau ysgol lleol, o ddydd Llun i ddydd Gwener o 10am (ac eithrio gwyliau banc). Am ein dyddiadau ac amseroedd agor diweddaraf, ewch i’r adran Diwrnod Allan i’r Teulu: Archebu Eich Ymweliad – DangerPoint
Os ydych chi’n ysgol / grŵp wedi’i drefnu ac eisiau archebu ymweliad, ffoniwch un o’r tîm ar 01745 850414 neu e-bostiwch ni ar bookings@dangerpoint.org.uk.
Rydym ni’n ganolfan addysgol yn ogystal ag elusen annibynnol. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ddiogelwch. Yn fyr, rydym yn Ganolfan sy’n llawn gweithgareddau hwyliog a chyffrous i ddiddanu pawb trwy gydol ymweliad.
Rydym yn argymell archebu cyn i chi ddod i’r ganolfan i osgoi siom. Gallwch ein ffonio ar 01745 850414, e-bost ar bookings@dangerpoint.org.uk neu anfon neges ar gyfryngau cymdeithasol i drefnu eich ymweliad.
Rydym wedi ein lleoli ar yr A548 Ffordd yr Arfordir, troead Traeth Talacre o’r gylchfan. Dilynwch Ffordd yr Orsaf dros y bont a chymerwch y troad cyntaf ar y dde. Yn yr un modd, ein cod post yw CH8 9RL os ydych yn defnyddio Mapiau ar eich ffôn. what3words: ///promising.moving.youth
Gallwch, gallwch ddod â phecyn bwyd efo chi ond nid oes gennym gyfleuster bwyd ar y safle. Fodd bynnag, rydym yn gwerthu creision / bariau siocled a diodydd meddal ac mae gennym hufen iâ ar werth! Gennym ddigon o le i ymwelwyr bwyta eu bwyd tra maent yma.
Yn anffodus, dim ond cŵn cymorth a ganiateir ar y safle.
Mae’r ganolfan yn gwbl hygyrch – mae gennym 2 ardal y gellir eu cyrraedd trwy’r grisiau ond mae lifftiau grisiau ar gael. Mae gennym ni lifftiau o amgylch y ganolfan i ddiwallu eich anghenion. Gofynnwch i aelod o staff am gymorth a byddwn yn fwy na pharod i helpu.
Mae prisiau’n amrywio o £4, mae’n dibynnu ar ba weithgaredd yr hoffech chi gymryd rhan ynddo. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth wrth glicio ar ein tab ‘Archebu Eich Ymweliad’.
Mae PentrePeryglon yn cynnig cyfle gwych i ysgolion neu grwpiau trefniadol ymweld ar deithiau addysgol gyda’n ceidwaid hyfforddedig iawn. Rydym yn cynnig nifer o wahanol raglenni yn dibynnu ar oedran ac anghenion eich grŵp a gellir eu teilwra os oes angen.
Oes, mae yna doiledau, toiledau hygyrch a chyfleusterau newid babanod.
Oes! Mae gennym parcio am ddim i gwsmeriaid tu allan i’r ganolfan.