Wyt ti ddigon dewr i fod yn Dditectif Dirgel?
Ar eich ymweliad, byddwch yn cymryd rôl Ditectif Dirgel yn chwilio am beryglon y gallech chi eu gweld bob dydd a chasglu cliwiau i gwblhau’r Chwest. Mae llawer i’w weld ar eich ymweliad, felly cymerwch eich amser – does dim angen brysio.
Mae’r Ganolfan i gyd dan do (heblaw am ran fechan y tu allan ond mae gennym ni ganopïau os nad yw’r tywydd yn braf). Mae’r Helfa Ditectif Dirgel yn daith hunan-dywys, lle byddwch efo llyfryn gweithgaredd yn eich arwain trwy’r senarios.
Ar ben hynny, mae gennym ein Helfa Drysor! Rydym wedi cuddio 15 o ddiemwntau o amgylch y ganolfan yn ofalus i chi ddod o hyd iddynt! (Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu cuddio’n RILI dda – allwch chi weld nhw i gyd?) Unwaith y byddwch chi wedi dod o hyd i bob un, byddwch chi’n gallu dewis gwobr o’r Bocs Drysor.
Mae llawer i’w wneud yn y ganolfan – cliwiau i’w darganfod, gemau i’w chwarae, fideos i’w gwylio a gweithgareddau rhyngweithiol i gymryd rhan ynddynt. Wedi’i gynllunio fel set ffilm, byddwch yn dilyn y llwybr dan do ar daith o’r cartref i’r traeth, cefn gwlad a maes chwarae, a lleoliadau realistig eraill i ddysgu am ddiogelwch mewn ffordd hwyliog.