Mynediad i Bawb

Ym MhentrePeryglon, ein nod yw bod mor hygyrch â phosibl. Yn y ganolfan, rydym yn cynnig:

Parcio am ddim

Lifftiau, sy’n gwneud y ganolfan yn hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio

Cyfleusterau newid babanod

Toiled hygyrch

Mannau eistedd ar hyd y ganolfan

Dolen sain (hearing loop)

Byrddau ‘Nawr a Nesaf’

Byrddau arwyddion Makaton

Gardd blodau gwyllt ar gyfer lles a thawelwch meddwl

Rydym hefyd yn cynnig ymweliadau ymgyfarwyddo fel y gall staff ysgol ac arweinwyr grwpiau weld y ganolfan cyn archebu ymweliad.

Mae ein teithiau’n cynnwys rhai synau uchel a goleuadau sy’n fflachio. Fodd bynnag, mae’r profiadau hyn yn ddewisol, felly siaradwch ag aelod o’r staff os hoffech eu hosgoi. Mae tîm PentrePeryglon yma i’ch cefnogi.

 


http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com