Mae PentrePeryglon yn elusen annibynnol wedi’i lleoli ar arfordir Gogledd Cymru. Rydym yn ganolfan ymwelwyr rhyngweithiol ar agor ar gyfer ysgolion a grwpiau wedi eu trefnu yn ystod tymor ysgol ac am ddiwrnod gwych allan i’r teulu yn ystod gwyliau ysgol leol.
Rydym yn cynnig cyfle i ymwelwyr ddysgu am ddiogelwch – ond nid yn y ffordd y byddech yn ei feddwl. Mae’r Ganolfan yn llawn o weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol i ddiddanu pawb drwy gydol ymweliad.
Wedi ei ddylunio fel set ffilm, lle mae ymwelwyr yn teithio o’r cartref i’r traeth, cefn gwlad, fferm a lleoliadau eraill, mae PentrePeryglon yn cynnig amgylchedd diogel lle mae ymwelwyr yn dysgu am risgiau, sut i gadw’n ddiogel, ac yn bwysicaf oll, yn cael hwyl. Ewch am dro rhithwir drwy’r ganolfan isod i weld mwy o’r hyn sydd gennym i’w gynnig:
Am fwy o wybodaeth am ddiwrnod allan llawn hwyl i’r teulu cliciwch yma neu os hoffech ymweld ar un o’n teithiau addysgol, gweler y gwahanol raglenni sydd gennym i’w cynnig.