SWYDDI YM MHENTREPERYGLON

Croeso i wybodaeth am y swyddi sydd ar gael ym MentrePeryglon – y ganolfan addysg diogelwch Mae PentrePeryglon yn elusen gyda’r genhadaeth i: Addysgu plant a phobl ifanc a’r gymuned ehangach mewn ymwybyddiaeth o ddiogelwch er mwyn lleihau achosion o farwolaethau ac anafiadau damweiniol a hyrwyddo iechyd, lles a Diogelwch Cymunedol.

Mae PentrePeryglon wedi ennill nifer o wobrau ar gyfer addysgu ymwelwyr o bob oed sgiliau ar draws nifer of wahanol sefyllfaoedd fel diogelwch tân, diogelwch dŵr, cartref, ffyrdd a diogelwch teithio a diogelwch ar y rhyngrwyd ac ati. Mae’r ganolfan wedi’i lleoli mewn amgylchedd hyfryd, yn agos at y traeth gyda parcio am ddim ar y safle.

Helpwch ni i gyflawni ein cenhadaeth, a bydd gennych chi yrfa, nid yn unig yn hynod foddhaol, ond mae hefyd yn dod â manteision mawr iddo ac amgylchedd gwaith symbylus a chefnogol.

Cydlynydd Marchnata

Mae’r Cydlynydd Marchnata yn chwarae rhan annatod o fewn y tîm, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth marchnata yn bodloni nodau ac amcanion yr Elusen. Bydd y rôl hon yn cefnogi marchnata ffrydiau cynhyrchu incwm yr elusennau gan gynnwys ei rhaglenni ysgol amrywiol; sesiwn agor cyhoeddus a chynyddu’r defnydd o’r ganolfan.

Disgrifiad Swydd

Ffurflen Gais

Cyflog: £25,000 cychwynol
Lleoliad: Talacre, Sir y Fflint
Oriau: Llawn amser, 37 awr yr wythnos
Contract: Parhaol
Gwyliau: 25 diwrnod a gwyliau banc

Dyddiad cau: 21/4/23 12yp

Dyddiadau Cyfweld: 26ain Ebrill 2023

(pan fyddwch yn llenwi Ffurflen Google ac wedi mewngofnodi i’ch cyfrif Google, bydd eich cynnydd yn cael ei gadw’n awtomatig fel drafft am 30 diwrnod. Mae hyn yn golygu os na allwch gwblhau’r ffurflen neu os oes angen i chi newid dyfais, ni fyddwch rhaid i chi ddechrau dros y tro nesaf y byddwch yn agor y ffurflen. Pwysig: Os ydych chi all-lein, nid yw cadw’n awtomatig yn gweithio).


Sut i ddod o hyd i ni...

Mae PentrePeryglon oddi ar ffordd yr arfordir (A548) - troad Talacre o'r gylchfan. Dilynwch Ffordd yr Orsaf dros y bont a chymryd y troad cyntaf ar y dde.



http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com