Fel canolfan addysg diogelwch, mae PentrePeryglon yn cynnig y cyfle i ysgolion ymweld â’r Ganolfan i fynd ar daith tywys strwythedig o amgylch cyfres o olygfeydd realistig. Mae’r Ganolfan wedi ei gynllunio i gydymffurfio â’r cwricwlwm cyfoes, y cwricwlwm ABCh, Rhaglen Ysgolion Iach ac yn gyd-fynd â’r Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y rhaglenni yr ydym wedi’u creu ar gyfer y grwpiau gwahanol isod. Byddwch yn ymwybodol bod bwcio yn hanfodol.