Pan fyddwch chi’n cael cymaint o hwyl, gall hyn godi archwaeth bwyd arnoch, felly peidiwch ag anghofio dod â’ch cinio / pecyn picnic a’i fwynhau yn ein hamgylchedd hyfryd! Mae gennym fan picnic dan do ac yn yr awyr agored felly peidiwch â gadael i’r tywydd eich di-galonni.
Rydym yn gwerthu detholiad bach o ddiodydd (poeth ac oer) a byrbrydau sawrus, nid oes gennym unrhyw gyfleusterau arlwyo ar y safle, ond gallech wneud diwrnod ohoni ac ymweld â phentref Talacre a’r traeth.
Mae gan bentref Talacre gyfleusterau gwych i barhau eich diwrnod llawn hwyl allan i’r teulu- gyda dewis o arcedau, amryw o siopau bwyd a diod ac heb anghofio y traeth gyda’i oleudy enwog (fel y gwelir ar y sgrin yn yr hysbyseb Dulux)!