Yn ogystal â chynnig ymweliadau addysgol, rydym hefyd yn gallu cynnig nifer o raglenni sgiliau bywyd a rhaglenni gweithgareddau hunan-dywys. Gall y rhain fod yn addas ar gyfer 5 oed a hŷn. Nid oes terfyn uchaf – credwn y dylai addysg diogelwch fod yn hygyrch i bawb.
Mae ein rhaglenni sgiliau bywyd wedi cael eu datblygu i gynnig cefnogaeth a chyngor a gellir eu teilwra i weddu i oedran neu anghenion eich grŵp.
PentrePeryglon Ecstra – Anghenion Dysgu Ychwanegol
‘Nawr fy mod i’n Cropian – Rhaglen Rhienni
FireSafe – Rhaglen ataliol ar gyfer plant sy’n tanio’n fwriadol
Rydym hefyd yn cynnig cyfle gwych i grwpiau eraill i ymuno â’n Helfa Ditectif Dirgel. Wrth ddefnyddio llyfr gweithgaredd, byddwch yn chwilio drwy’r Ganolfan i gasglu gliwiau i gwblhau eich ymchwil. Os oes gennych bwnc neu fathodyn arbennig y buasech yn hoffi ei gwblhau ar eich ymweliad, ffoniwch ni am drafodaeth.
Os hoffech chi drafod eich anghenion neu os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o’n rhaglenni rhowch alwad i ni am sgwrs.