Mae PentrePeryglon wedi ei leoli yn Nhalacre, pentref glan môr hardd yng Ngogledd Cymru gyda thraeth sydd wedi ennill gwobrau.
Am gyfarwyddiadau i BentrePeryglon, dewiswch eicon y ganolfan ar y map a theipiwch eich cod post.
Os ydych yn teithio mewn car, yna CH8 9RL yw’r cod post ydych angen ar gyfer eich SAT NAV – bydd hyn yn dod â chi yn uniongyrchol at ein drws lle mae digon o BARCIO AM DDIM.
Os nad ydych am ddefnyddio sat nav, yna dylai’r cyfarwyddiadau canlynol fod o gymorth:
Yn dod o’r Dwyrain: Teithiwch ar hyd yr A548 (prif Ffordd yr Arfordir) gan ddilyn arwyddion i Dalacre/ Traeth. Ar gylchfan Talacre, cymerwch yr ail allanfa (arwydd Talacre / Traeth). Dilynwch y ffordd dros y bont reilffordd a throwch yn syth i’r dde ar waelod y bont. Mae ein maes parcio ar y chwith ac rydym yn yr adeilad o’ch blaen.
Yn dod o’r Gorllewin: Teithio ar hyd yr A548 (prif Ffordd yr Arfordir) gan ddilyn arwyddion i Dalacre / Traeth. Ar gylchfan Talacre, cymerwch yr allanfa 1af (arwydd Talacre / Traeth). Dilynwch y ffordd dros y bont reilffordd a throwch yn syth i’r dde ar waelod y bont. Mae ein maes parcio ar y chwith ac rydym yn yr adeilad o’ch blaen.
I gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd yma ar drafnidiaeth gyhoeddus, byddem yn argymell eich bod yn cysylltu â Traveline Cymru i gael amserlenni.