Mae PentrePeryglon yn cynnig cyfle gwych i ysgolion neu grwpiau wedi’u trefnu i ymweld ar daith addysgol gyda’n Ceidwaid sydd wedi eu hyfforddi i safon uchel. Rydym hefyd yn cynnig nifer o raglenni gwahanol yn seiliedig ar oedran ac anghenion eich grŵp a gellir eu teilwra i gyd os oes angen. Ewch am dro rhithwir drwy’r ganolfan isod i weld mwy o’r hyn sydd gennym i’w gynnig:
Fel canolfan addysg diogelwch, mae PentrePeryglon yn cynnig cyfle i ysgolion ymweld â’r Ganolfan a mynd ar daith dywys strwythuredig o amgylch senarios sydd yn adlewyrchu bywyd pob dydd. Mae’r Ganolfan wedi ei chynllunio i gysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol, y cwricwlwm ABCh a Rhaglen Ysgolion Iach. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gall ymweliad â ni fod o fudd i’ch ysgol, ffoniwch un o’r tim i drafod ar 01745 850414.
Ond nid ydym ar gyfer ysgolion yn unig. Rydym yn gyfle gwych i grwpiau eraill wedi’u trefnu fel clybiau ieuenctid, Brownies, Sgowtiaid a Chadetiaid y Môr i enwi dim ond rhai. Os oes gennych bwnc neu fathodyn mewn cof y byddech yn hoffi ei gwblhau ar eich ymweliad, ffoniwch ni i drafod.
Fel Elusen, rydym yn ceisio sybsideiddio costau mynediad a chludiant eich ymweliad cymaint â phosibl. Gwnawn hyn drwy Nawdd Corfforaethol, ein harian ein hunain a thrwy wneud cais am gymorth gan grantiau ac ymddiriedolaethau perthnasol. Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu yn amodol ar delerau ac amodau’r grant ac ar sail y cyntaf i’r felin felly cysylltwch ag un o’r tîm i drafod eich anghenion.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld yn ystod y gwyliau ysgol lleol gyda’ch grŵp neu ar ddiwrnod allan i’r teulu, yna gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hynny ar ein tudalennau Helfa Ditectif Dirgel.