Mae gan bentref Talacre gyfleusterau gwych i barhau eich diwrnod llawn hwyl allan i’r teulu- gyda dewis o arcedau, amryw o siopau bwyd a diod ac heb anghofio y traeth gyda’i oleudy enwog (fel y gwelir ar y sgrin yn yr hysbyseb Dulux)!
Rydym hefyd yn ffodus iawn i gael Llwybr Arfordir Cymru ar stepen ein drws – y ffordd berffaith i archwilio Arfordir Gogledd Cymru!
LLEFYDD I AROS…
Os ydych yn chwilio am rywle i aros yn yr ardal gyfagos mae digon o feysydd carafanau wedi’u lleoli yn Nhalacre ei hun yn ogystal â llawer o feysydd gwersylla a charafanau gerllaw.
Mae gan Sir y Fflint a’r cyffiniau hefyd amrywiaeth o leoedd gwely a brecwast gwych, gwestai a llawer mwy. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.