Teimlo’n ysbrydoli gan Marathon Llundain? Beth am ymuno â Tîm PentrePeryglon a rhedeg y Marathon Eryri yr Hydref hwn!
Yn cael ei gynnal ar 27 Hydref 2018, gyda’r addewid o olygfeydd syfrdanol, llwybrau anodd ac ysblennydd sy’n amgylchynu’r Wyddfa yn rhoi lle unigryw i’r digwyddiad hwn yn y calendr marathon blynyddol.
Mae ceisiadau i’r marathon bellach yn llawn ond mae gennym nifer o leoedd a ariennir i chi gymryd rhan! Am ragor o fanylion – edrychwch ar ein hadran cefnogi.