CYLLID | MENTER IEUENCTID LLANRWST

Hoffai PentrePeryglon ddweud DIOLCH YN FAWR i Brosiect Ieuenctid Llanrwst sydd wedi darparu £4000 o gyllid tuag at ymweliadau i ddisgyblion yn ardal Llanrwst.

Sefydlwyd Prosiect Ieuenctid Llanrwst ym mis Ionawr 1997 ac yn ddiweddar penderfynodd gau.

Gyda’r arian sydd ar ol, dewisodd gefnogr nifer o elusennau a sefydliadau a oedd o fudd i blant a phobl ifanc ac mae PentrePeryglon yn falch iawn o gael eu cynnwys.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i roi cymhorthdal i ymweliadau i ysgolion yn Llanrwst a’r ardal gyfagos fel y gallant ymweld â PhentrePeryglon i gymryd rhan yn ein teithiau diogelwch, gan dderbyn ein negeseuon pwysig o ran bywydau bob dydd.

Roedd Cat Harvey-Aldcroft, Dirprwy Reolwr yn falch o fynychu Noson Dathlu ar Fai 22ain, a chafodd ei gynnal gan Brosiect Ieuenctid Llanrwst i dderbyn y wobr.

http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com