ARDDANGOSFA NEWYDD – Troseddau Cyllyll

Rydym wedi lansio arddangosfa newydd arall yn y Ganolfan yr wythnos hon. Wedi’i noddi gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, bydd yr arddangosfa newydd yn canolbwyntio ar droseddau cyllyll. Pwrpas yr arddangosfa yw ceisio codi ymwybyddiaeth o ganlyniadau cario cyllyll ynghyd â lleihau ofn trosedd a nifer y bobl ifanc sy’n dewis cario cyllyll.

Dywedodd Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru: “Mae’r arddangosfa ym MhentrePeryglon wedi creu argraff fawr arnaf. Mae troseddau cyllyll ac ofn troseddau cyllyll yn achosi llawer iawn o niwed a gorau po fwyaf y gallwn ei wneud i godi ymwybyddiaeth.

Rwy’n falch iawn fy mod wedi gallu talu am yr ychwanegiad newydd hwn i’r cyfleusterau rhagorol ym MhentrePeryglon ac os yw’n arbed un bywyd yn unig bydd wedi bod yn arian a wariwyd yn dda.

Rwy’n siŵr y bydd y plant wrth eu boddau ac mae’n ‘wych ei fod yn cyrraedd 7,000 ohonyn nhw bob blwyddyn ond mae angen i ni wneud y lle hwn yn fwy hygyrch i bobl o bob rhan o Ogledd Cymru a Swydd Gaer.”

Talacre Visit of PCC Arfon Jones to Dangerpoint to see new Knives takes Lives exhibit Cat Harvey (Dept Manager Dangerpoint), PCC Arfon Jones and Amanda Hanson (Serious Crime Prevention Co-ordinator)

Mae staff wedi derbyn hyfforddiant trwy Heddlu Gogledd Cymru ac Fearless.org a bydd yr arddangosfa newydd yn cael ei defnyddio gyda grwpiau o CA2 ac i fyny o’r flwyddyn academaidd newydd.

http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com