Rydym yn falch iawn i lansio ein hadnodd gwrth-fwlio newydd a ddatblygwyd mewn parternship gydag Ysgol y Llys a Choleg Llandrillo.
Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth gyda disgyblion Bl 5 &6 Ysgol y Llys a helpodd i greu sgript newydd. Roeddem eisiau gwneud yn siŵr bod y ffilm yn berthnasol i bobl ifanc ac wedi trafod y materion y maent yn eu hwynebu â bwlio – nid yr hyn yr ydym yn meddwl eu bod.
Gweithiodd hefyd â Choleg Llandrillo ac un o’u myfyrwyr BA Anrhydedd a gymerodd yr aweniad ar yr ffilmio ac wedi gwneud gwaith rhagorol (hyd yn oed os ydym yn dweud hynny ein hunain)!
Roedd yn brofiad gwych i allu gweithio mewn partneriaeth âg Ysgol y Llys a Choleg Llandrillo ac rydym yn credu bod yr adnodd yn ardderchog ac rydym yn hynod o falch o fod yn gallu rhannu gyda’n hymwelwyr.
Rydym am ddiolch yn enfawr i bawb a gymerodd ran yn y prosiect – rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth.
Beth am alw draw i’r ganolfan i weld yr adnodd newydd yn y ganolfan!