I werthuso pa mor llwyddiannus yw ymweliad â PhentrePeryglon, rydym yn gofyn i drefnydd y grŵp lenwi holiadur cyn gadael:
Holiaduron
Ar ôl i grwpiau ymweld â’r Ganolfan, rydym yn gofyn i’r arweinwyr grŵp lenwi holiadur cyn gadael. Mae’r atebion yn ein helpu ni i sicrhau fod yr ymweliad yn werth chweil a bod eich disgwyliadau yn cael eu hateb. Hyd yn hyn, mae’r canlyniadau yn dangos fod:
100% o athrawon yn argymell ymweliad i BentrePeryglon i eraill
100% o athrawon yn credu bod eu grŵp wedi elwa gan yr ymweliad.
25% o athrawon yn fodlon fod PentrePeryglon wedi ateb eu disgwyliadau ond roedd 75% yn fodlon iawn.
Cwis
Mae’r plant yn cwblhau cwis cyn ac ar ôl y daith o amgylch y ganolfan. Mae’r system yma’n ein caniatâu i fesur lefel gwybodaeth y plant cyn y daith, ac yna yr hyn a ddysgwyd ar ôl y daith. Mae’r plant wrth eu boddau yn ddefnyddio’r teclynau pleidleisio ac mae’r Ceidwaid yn magu hyder wrth weld gwelliant amlwg yng nghanlyniadau’r cwis wedi’r daith.
Dyma sut mae’n gweithio: Caiff pob plentyn declyn pleidleisio ac eglurhad byr ar sut i’w weithio, a pha bryd i bwyso botwm A, B, C, D neu E. Gofynnir 10 cwestiwn ar amrywiaeth o destunau diogelwch cysylltiedig. Ar ôl ateb y cwestiynau, caiff cyfartaledd sgôr y grŵp ei weithio allan wedyn fel bod y plant yn gallu gweld sut hwyl gawson nhw. (Roedd cyfartaledd sgôr cyn yr ymweliad mis Hydref 22 yn 38%).
Ar ôl y daith o amgylch y ganolfan rydym yn gofyn yr un cwestiynau iddyn nhw eto, ond y tro hwn ar ôl pob cwestiwn ymddengys siart ar y sgrin sy’n dangos faint o blant a gafodd yr ateb yn gywir. Dyma pryd mae’r plant yn cynhyrfu go iawn pa welant y canran uchel o wyrdd! Rydym yn trafod yr atebion cywir ac ailddweud y neges diogelwch. (Roedd y cyfartaledd sgôr ar ôl yr ymweliad mis Hydref 22 yn 71%.)
Mae’r plant fel arfer yn dyblu’r sgôr cyn-ymweliad. Mae hyn yn dangos bod y daith weledol, senarios realistig, ailadrodd a straeon, pob un ohonynt yn cyfrannu at lwyddiant PentrePeryglon fel adnodd addysgol.