Mae’r PentrePeryglon + wedi ei theilwra ar gyfer bobl hŷn. Mae’r rhaglen hon yn 2awr a 30 munud o hyd a bydd Ceidwad yn tywys grwpiau o gwmpas y Ganolfan tra’n trafod diogelwch personol.
Mae lle i hyd at 30 o ymwelwyr y tro ar y rhaglen PentrePeryglon+, rhennir y grŵp yn grwpiau llai i deithio o gwmpas y Ganolfan.
Mae Rhaglen PentrePeryglon+ wedi ei rhannu yn 6 parth sydd yn cynnwys y scenarios canlynol:
Parth 1: Y Cartref – yn cynnwys lolfa, cegin, ystafell wely, garej a gardd
Parth 2: Cadw meddyginiaeth mewn man diogel, diogelwch ar y safle adeiladu, bwlio
Parth 3: Diogelwch wrth deithio – yn cynnwys diogelwch ar y bws ac ar drên
Parth 4: Fferm a Chefn Gwlad – yn cynnwys ymwybyddiaeth o lifogydd
Parth 5: Diogelwch ar y Traeth/mewn Dŵr/ar y Ffordd
Parth 6: Diogelwch digidol yn cynnwys y Rhyngrwyd, ffonau symudol a siopa.
Mae bwcio yn hanfodol ar gyfer y rhaglen hon. Gall fod rhaid talu am yr ymweliad. Byddwch cystal â chysylltu â’r Ganolfan i drafod hyn.