Yr arddangosfa newydd gyntaf sydd gennym yw’r rocedi, a fydd yn dysgu pobl i LEIHAU, AILDDEFNYDDIO AC AILGYLCHU! Mae K-os yr Aliwn wedi gofyn i ni yma ym MhentrePeryglon i’w helpu i danio ei roced. Yr unig ffordd i danio ei roced yw trwy ailgylchu. Gall ymwelwyr gymryd rhan mewn sortio eitemau i gategorïau o blastig, cardbord a metel a’u sganio i’r blwch cywir. Unwaith y bydd yr holl eitemau wedi’u sganio’n gywir, bydd y rocedi’n hedfan!
Yr ail arddangosfa yw’r gêm ‘Dyfalu Pwy’. Yn debyg iawn i’r gwreiddiol, bydd ymwelwyr yn cael eu rhannu’n ddau dîm ac yn gofyn cwestiynau ‘Oes/Nagoes’ i adnabod y person ar y tîm arall. Fodd bynnag, gyda’r twist PentrePeryglon hwn, gofynnwn i ymwelwyr ddewis gyrrwr bws o blith y cymeriadau ar y bwrdd. Gan rai cymeriadau anableddau cudd (neu bwerau swper), ond nid yw hyn yn golygu na allant fod yn yrrwr bws. Pwynt y gweithgaredd hwn yw dangos, waeth beth fo’ch anabledd, eich bod yn gallu gwneud/bod yn unrhyw beth yr ydych yn ei ddymuno!