Y mis hwn roedden ni’n ddigon ffodus i gael ein hymuno gan Gwyn a Kim ac o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a gyflwynodd sesiwn hyfforddi Diogelwch Dŵr wych i’n staff a’n Ceidwaid. Roedd y sesiwn hon yn cynnwys:
Arnofio i Fyw
Y Cod Diogelwch Dŵr
Arwyddion Diogelwch Dŵr
Beth i’w Wneud mewn Argyfwng
Diogelwch Dŵr Arfordirol
Diogelwch Dŵr Mewndirol
Mae’r hyfforddiant hwn yn caniatáu i’n Ceidwaid aros yn gyfredol ag addysg Diogelwch Dŵr a chyflwyno’r negeseuon mwyaf hanfodol a gwybodus i’n hymwelwyr ar bwnc hynod bwysig – un na allai fod yn bwysicach nag ydyw ar hyn o bryd, yn dilyn y golled drasig a diangen o fywyd dros hanner tymor mis Mai yn Lloegr yn unig.
Yn unol â hyn, rydym yn gyffrous i gyflwyno ein harddangosfa Diogelwch Dŵr newydd. Mae’r arddangosfa gwbl ryngweithiol hon yn cefnogi ein tîm i gyflwyno negeseuon diogelwch sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch dŵr mewndirol, gan gynnwys rhaeadrau, pyllau plymio, cerrig camu a choredau yn ogystal â phwysigrwydd peidio byth â neidio i mewn ar ôl anifail a’r gwahaniaethau rhwng cymorth arnofio a siaced achub. Gyda chymeriadau Playmobil (pobl, cŵn, caiacau ac ati) mae ein Ceidwaid yn gallu addysgu ein hymwelwyr gan ddefnyddio adrodd straeon rhyngweithiol ac ymarferol sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc ymgolli’n llwyr yn y dysgu.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru am eu cefnogaeth gyda’r datblygiad newydd hwn yn ogystal â Piranha Audio Visual am y gosodiad.