Rydym yn gyffrous i gyflwyno’r ychwanegiad diweddaraf at ein senario Cartref yma yn PentrePeryglon – e-sgwter! Cyn i ni ailagor ar gyfer teithiau ysgol ym mis Medi, bydd ein Ceidwaid yn cael eu hyfforddi ar ddiogelwch e-sgwteri. Wrth symud ymlaen, byddwn yn addysgu plant a phobl ifanc am:
Y cyfreithiau ynghylch defnyddio e-sgwteri
Y risgiau tân posibl sy’n gysylltiedig â’u batris
Yn PentrePeryglon, rydym bob amser yn gweithio’n galed i aros ar flaen y gad o ran materion diogelwch cyfredol – a chyda e-sgwteri yn dod yn fwy cyffredin, bydd y nodwedd newydd hon yn ein helpu i dynnu sylw at bryder pwysig a chynyddol yn ein cymuned.
Diolch yn fawr iawn i Dân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Heddlu a Chymuned Gogledd Cymru – PACT am eu cefnogaeth hael gyda’r prosiect hwn. I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, ewch i http://bit.ly/45v4Zkg.