Rhaglen ymddygiad gwybyddol o ddeg sesiwn un wrth un yw Firesafe. Anelir y rhaglen at gynnwyr tân risg isel i ganolig rhwng 11-16 oed. Mae’n dilyn trywydd addysgiadol ond hefyd yn trafod ystyried canlyniadau ac ymwybyddiaeth dioddefwyr.
Cyfeirir yn bennaf at:
- Sgiliau ymddygiad gwybyddol
- Addysg ac ymwybyddiaeth tân
- Atal llithro’n ôl
Datblygwyd y rhaglen unigryw hon gan y Ganolfan Datblygiad Gwybyddol, gyda chymorth Gwasanaeth Tân ac Achub Swydd Derby. Datblygwyd yr ymyrraeth hon yn dilyn gwaith ymchwil manwl iawn a adnabyddodd ddiffyg mewn rhaglenni ymyrraeth a achredwyd, ar gyfer pobl ifanc lle mae chwarae â than/cychwyn tân a chynnau tân yn rhan o’u problem proffil.
Mae PentrePeryglon yn cydlynu’r rhaglen FireSafe ar gyfer holl bobl ifanc Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Os oes gennych unrhyw bryderon am berson ifanc a chynnau tanau neu os hoffech ragor o wybodaeth am y rhaglen, cysylltwch â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i drafod:ct.control@nwales-fireservice.org.uk