PentrePeryglon Ecstra

Gall ymweliad â PhentrePeryglon gael ei theilwra ar gyfer anghenion a gallu pob oedran.

Gall grwpiau hyd at 36 mewn nifer ddod ar ymweliad, wedi eu rhannu i grwpiau llai o 6. Byddent yn cael eu tywys gan eu Ceidwad arbennig eu hunain fydd yn defnyddio llawer gwahanol dull dysgu i drosglwyddo’r negeseuon diogelwch drwy’r Ganolfan.

Yn ystod ymweliad, byddent yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol. Byddent yn defnyddio teclynau pleidleisio yn eu llaw cyn yr ymweliad er mwyn gweld beth maent yn wybod yn barod; ac yna unwaith eto ar ôl yr ymweliad er mwyn gweld beth maent wedi ddysgu. (Gallwch ddarllen mwy am ein dulliau gwerthuso yma).

Mae Rhaglen PentrePeryglon wedi ei rhannu yn bedwar parth sydd yn cynnwys y scenarios canlynol:

Parth 1: Y Cartref – yn cynnwys lolfa, cegin, ystafell wely, garej a gardd
Parth 2: Camddefnyddio  sylweddau, diogelwch ar y safle adeiladu, bwlio
Parth 3: Diogelwch wrth deithio – yn cynnwys diogelwch ar y bws ac ar drên
Parth 4: Fferm a Chefn Gwlad – yn cynnwys ymwybyddiaeth o lifogydd
Parth 5: Diogelwch ar y Traeth/mewn Dŵr/ar y Ffordd
Parth 6: Diogelwch digidol yn cynnwys y Rhyngrwyd, ffonau symudol a siopa.

Gall ymweliad gael ei theilwra. Nid oes rhaid cynnwys pob un o’r scenarios uchod os nad ydynt yn berthnasol i’ch grŵp. Os ydych eisiau trafod sut y gallem deilwra ein rhaglen ar eich cyfer, byddwch cystal â rhoi galwad ffôn i un o’n tîm.

Mae bwcio yn hanfodol. Gall fod rhaid talu am yr ymweliad. Byddwch cystal â chysylltu â’r Ganolfan i drafod hyn.


Sut i ddod o hyd i ni...

Mae PentrePeryglon oddi ar ffordd yr arfordir (A548) - troad Talacre o'r gylchfan. Dilynwch Ffordd yr Orsaf dros y bont a chymryd y troad cyntaf ar y dde.

Cysylltwch â Ni...





    http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com