Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi derbyn £21,500 gan Sefydliad Neumark i helpu 1,000 o blant o ysgolion cynradd a grwpiau ar draws Gogledd Cymru i gael sgiliau bywyd hanfodol o’u hymweliad â PhentrePeryglon.
Mae Sefydliad Neumark yn gweithio efo sefydliadau gwahanol ar draws Gogledd Cymru i wneud gwahaniaeth. Wedi’u sefydlu gan deulu Neumark, maent yn cefnogi elusennau ac unigolion ble mae eu gwaith yn cael effaith gadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a phobl ifanc.Bydd y cyllid yn helpu i roi cymhorthdal i gostau ymweliadau a thrafnidiaeth 1,000 o blant o ysgolion cynradd a grwpiau ledled Gogledd Cymru o 2023 ymlaen. Bydd pob ymweliad yn helpu i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol i alluogi plant i wneud dewisiadau cadarnhaol a rheoli senarios peryglus yn hyderus yn y dyfodol. Mae’r cyllid yn galluogi ysgolion a grwpiau i ddod o bob cornel o Ogledd Cymru, gyda’r cymorth gyda chostau cludiant yn sylfaenol i’r rhai sydd ymhellach i ffwrdd i ddod i ymweld â ni.
Dywedodd Rheolwr y Ganolfan, Julie Ann Tyler,…
“Rydym yn ddiolchgar iawn bod Sefydliad Neumark wedi dewis cefnogi ysgolion a grwpiau ar draws Gogledd Cymru a fyddai fel arall yn cael trafferth ymweld â’r ganolfan. Mae costau cludiant wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf ac wedi creu rhwystr hyd yn oed yn fwy i lawer o grwpiau. Mae ymweliad â PhentrePeryglon yn helpu i greu ‘Plant gwydn, sy’n gallu ffynnu’ trwy ddarparu profiad sgiliau bywyd cynhwysol a rhyngweithiol i blant rhwng 7 ac 11 oed mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn mewn ffordd hwyliog a chreadigol.”
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Neumark, Rebecca Prytherch…
“Rydym yn teimlo bod PentrePeryglon yn lle mor anhygoel ar gyfer datblygiad effeithiol sgiliau bywyd hanfodol i blant, fel y dylai pob plentyn o fewn ysgolion cynradd ar draws Gogledd Cymru gael y cyfle i fanteisio ar y cyfleuster hwn, a dyna pam rydym yn falch iawn o allu manteisio ar y cyfleuster hwn i ddarparu’r cymorth hwn”.
Rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth ac rydym yn gyffrous iawn i groesawu mwy o bobl ifanc ar draws Gogledd Cymru i’r ganolfan.