Mae Rhaglen ‘Y Pwynt’ yn rhaglen tywys ryngweithiol 3 awr 30 o hyd ar gyfer disgyblion cyfnod allweddol 3 a 4. Mae modd teilwra’r rhaglen i gwrth ag anghenion a gallu’r grŵp fydd yn ymweld (rhowch wybod wrth archebu lle os gwelch yn dda).
Mae lle i grwpiau o hyd at 42 disgybl ar y Rhaglen ‘Y Pwynt’, a chânt eu rhannu yn grwpiau o 7. Byddant yn cael eu tywys o amgylch y pentre gan Geidwad dynodedig a fydd yn defnyddio amryw o dechnegau dysgu i rannu negeseuon diogelwch y Ganolfan. Yn ystod yr ymweliad, bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol. Byddant yn defnyddio defeisiadau llaw i ateb y cwetiynau cyn mynd o gwmpas y ganolfan i weld beth maent yn wybod yn bard; ac eto ar ôl yr ymweliad i weld beth maen wedi eu ddysgu. Bwriad rhaglen ‘Y Pwynt’ yw magu hyder a chynyddu sgiliau bywyd cyffredional y boble ifanc.
Mae Rhaglen ‘Y Pwynt’ wedi ei rhannu yn 7 parth sydd yn cynnwys y scenarios canlynol:
Parth 1: Y Cartref – yn cynnwys lolfa, cegin, ystafell wely, garej a gardd
Parth 2: Ymddygiad gwrthgymdeithasol, diogelwch ar y safle adeiladu, bwlio
Parth 3: Diogelwch wrth deithio – yn cynnwys diogelwch ar y bws ac ar drên
Parth 4: Fferm a Chefn Gwlad – yn cynnwys ymwybyddiaeth o lifogydd
Parth 5: Diogelwch ar y Traeth/mewn Dŵr/ar y Ffordd
Parth 6: Diogelwch digidol yn cynnwys y Rhyngrwyd, ffonau symudol a siopa.