Mae’r rhaglen Nawr ‘Mod i’n Cropian wedi ei theilwra ar gyfer rhieni sydd efo plant dan 5 oed. Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer rhieni, aelodau’r teulu a gofalwyr eraill. Nid ydi’r rhaglen wedi’i anelu at blant.
Mae’r rhaglen hon yn 2awr a 30 munud o hyd a gennym le i hyd at 36 o ymwelwyr ar y tro. Byddwch yn cael eich rhannu i grwpiau llai i gael eich tywys o amgylch y ganolfan.
Nod y rhaglen Nawr ‘Mod i’n Cropian yw magu hyder a meithrin sgiliau rhieni a gofalwyr ynghlyn â sawl maes allweddol yn cynnwys diogelwch ar y ffyrdd, diogelwch yn y car, diogelwch tân a diogelwch cyffredinol yn y cartref.
Mae bwcio yn hanfodol ar gyfer yr rhaglen hon. Gall fod rhaid talu am yr ymweliad. Cysylltwch â’r Ganolfan i drafod hyn.