Ar gyfer y gwyliau’r haf, beth am ymuno â ni am haf llawn hwyl i’r teulu cyfan? Blwyddyn yma, rydym wedi cyflwyno Helfa Ditectif Dirgel!
Cliciwch yma am fwy wybodaeth: https://dangerpoint.org.uk/danger-detective-quest/
Yma ym Mhentre’ Peryglon, rydym yn ganolfan addysgol, gydag amrywiaeth o weithgareddau i fwynhau. O gelf a chrefft, i’r helfa drysor a phaentio crochenwaith, mae gennym ni bopeth ar gael ar gyfer haf o hwyl a sbri.
Rydym wedi diweddaru’r ganolfan i gynnwys parthau newydd a chyffrous, gweithgareddau newydd a lot fwy i ddysgu! Pam na wnewch chi alw draw heddiw am ymweliad? Ein horiau agor yw 10am tan 3pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod gwyliau’r haf.
Rydym wedi ein lleoli ym Mharc Busnes Granary Court yn Nhalacre, ddim rhy bell o’r A55. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae yna groeso i chi gysylltu â ni. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn ystod y gwyliau haf llawn hwyl a sbri!
Lleoliad: PentrePeryglon, Parc Busnes Granary Court, Talacre, CH8 9RL
Manylion cyswllt: 01745 850414 / bookings@dangerpoint.org.uk.