Nadolig yn CraftPoint

Ymunwch â ni y gwyliau hwn am sesiwn crefft Nadolig hwyliog yn CraftPoint- archebwch nawr i osgoi cael eich siomi!

Mae pob Bocs Nadolig yn cynnwys blwch arian ceramig Nadoligaidd gydag amrywiaeth o baent i’w addurno, addurn coeden bren, celf crafu, lluniau ffelt niwlog, cerdyn Nadolig y gallwch gwneud eich hun gyda sticeri, llyfr nodiadau a phensil a thatŵ Nadolig. Hefyd yn gynwysedig i bob gwestai mae diod boeth neu oer (dŵr, sudd, te, coffi neu siocled poeth gyda’r trimins i gyd!) a byrbryd Nadoligaidd.

SYLWCH: Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Nid yw’r gweithgaredd hwn yn addas ar gyfer plant dan 3 oed.



I bwcio, dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu prynu. Nesaf, dewiswch y dyddiad yr hoffech ymweld â ni o’r dyddiadau sydd ar gael ac yna dewiswch eich amser.

Unwaith y byddwch wedi dewis eich tocynnau, sgroliwch i lawr a chliciwch ar y botwm ‘Archebwch Nawr’ i gadarnhau. Rhowch eich manylion personol ac yna ewch ymlaen i’r adran talu.

Anfonir e-bost atoch yn cadarnhau eich archeb.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’r ganolfan.

Sut i ddod o hyd i ni...

Mae PentrePeryglon oddi ar ffordd yr arfordir (A548) - troad Talacre o'r gylchfan. Dilynwch Ffordd yr Orsaf dros y bont a chymryd y troad cyntaf ar y dde.

http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com