Rhaglen Graidd PentrePeryglon (5-11 oed)

Mae Rhaglen Graidd PentrePeryglon yn rhaglen tywys ryngweithiol 3awr 35 munud o hyd ar gyfer ysgolion cynradd. Mae modd teilwra’r rhaglen i gwrth ag anghenion a gallu’r grŵp fydd yn ymweld (rhow wybod wrth archebu lle os gwelch yn dda).

Mae lle i grwpiau o hyd at 60 o blant ar y Rhaglen Graidd, a chânt eu rhannu yn grwpiau o 10. Byddant yn cael eu tywys o amgylch y pentre gan Geidwad dynodedig a fydd yn defnyddio amryw o dechnegau dysgu i rannu negeseuon diogelwch y Ganolfan.

Yn ystod yr ymweliad, bydd y plant yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cwis rhyngweithiol. Byddant yn defnyddio defeisiadau llaw i ateb y cwetiynau cyn mynd o gwmpas y ganolfan i weld beth maent yn wybod yn bard; ac eto ar ôl yr ymweliad i weld beth maen wedi eu ddysgu.

Mae Rhaglen PentrePeryglon wedi ei rhannu yn 6 parth sydd yn cynnwys y scenarios canlynol:

Parth 1: Y Cartref – yn cynnwys lolfa, cegin, ystafell wely, garej a gardd
Parth 2: Camddefnyddio  sylweddau, diogelwch ar y safle adeiladu, bwlio
Parth 3: Diogelwch wrth deithio – yn cynnwys diogelwch ar y bws ac ar drên
Parth 4: Fferm a Chefn Gwlad – yn cynnwys ymwybyddiaeth o lifogydd
Parth 5: Diogelwch ar y Traeth/mewn Dŵr/ar y Ffordd
Parth 6: Diogelwch digidol yn cynnwys y Rhyngrwyd, siarad efo K-os a siopa.

Gall fod rhaid talu am yr ymweliad. I ddysgu mwy am y gwahanol senarios a gwybodaeth a ddarperir yn y Ganolfan, cysylltwch â’r Ganolfan i drafod hyn.


Sut i ddod o hyd i ni...

Mae PentrePeryglon oddi ar ffordd yr arfordir (A548) - troad Talacre o'r gylchfan. Dilynwch Ffordd yr Orsaf dros y bont a chymryd y troad cyntaf ar y dde.

Cysylltwch â Ni...





    http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com