Ar 1af Rhagfyr, cafodd PentrePeryglon ein digwyddiad Nadolig blynyddol gyda chyngerdd wych yng Nghadeirlan Llanelwy. Roeddem yn hynod ddiolchgar i ni gael eich dewis eleni i fod yn un o elusennau Esgobaeth Llanelwy i gael defnydd o’r Eglwys Gadeiriol heb unrhyw dâl.
Cynhaliom Gyngerdd Nadolig gyda pherfformiadau o Ysgol Bryn Garth, Ysgol Gronant ac Ysgol Trelogan; Côr Merched y Fflint a Chwartet Sinfonia Gogledd Ddwyrain Cymru.
Cododd y digwyddiad dros £1908 ar gyfer PentrePeryglon, a fydd yn mynd yn ôl i’r elusen i’n helpu gyda’n darpariaeth graidd.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i BOB un a fynychodd y digwyddiad yn ogystal â’r rhai a oedd yn ei gefnogi mewn gwahanol ffurfiau – ni fyddai’r digwyddiad mor llwyddiannus ag y bo modd pe na bai am y gefnogaeth a gawsom!
Nadolig Llawen