Calan Gaeaf ym MhentrePeryglon

Hanner Tymor mis Hydref eleni, mae K-os wedi bod yn brysur yn addurno’r ganolfan gydag addurniadau arswydus ar gyfer Calan Gaeaf. Os ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud yn ystod Hanner Tymor yr Hydref, yna mae gennym ni ddigon o weithgareddau i’r teulu cyfan. Mae gennym ein Helfa Ditectif Dirgel, lle bydd gan ymwelwyr lyfryn i’w tywys eu hunain o amgylch y ganolfan. Yn y llyfryn hwn, mae yna ddigon o weithgareddau i’r plant eu gwneud tra maen nhw yma a thra maen nhw gartref. Hefyd, mae gennym ein Helfa Ysbrydion, lle bydd ymwelwyr yn chwilio am 15 o ysbrydion wedi’u cuddio o amgylch y ganolfan (mae rhaid ohonyn nhw – felly byddwch yn barod!). Mae prisiau’n cychwyn o £2 ac rydym yn cynghori ymwelwyr i archebu lle i osgoi siom! Rydym ar agor o 10yb, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Swnio fel y diwrnod allan perffaith? Cysylltwch heddiw!

http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com