Mae ein term fel Achos Lleol Co-op wedi dod i ben a hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd ni drwy gydol y flwyddyn. Cawsom ein gwahodd i bob un o’r tri Co-op yn yr ardal a oedd wedi cefnogi’r arian aelodaeth cymunedol yn ymweld â siopau Rhyl, Bodelwyddan a Rhuddlan i dderbyn sieciau a siarad â staff a chwsmeriaid am sut fyddai’r cyllid o fudd i’r plant. Yn gyfan gwbl, derbyniodd PentrePeryglon £3,118.25 o’r arian sy’n mynd tuag at roi cymhorthdal i 260 o ymweliadau â’r ganolfan.