ARDDANGOSFA NEWYDD – 999

Rydym wedi cael llawer o ddiweddariadau cyffrous newydd yn y ganolfan yn ddiweddar ac mae un yn efelychydd 999 newydd sydd wedi’i osod yn y ganolfan. Mae’r arddangosfa ryngweithiol newydd yn y lolfa ac mae’n cynnal 3 senario gwahanol – un yr un i’r Heddlu, Tân ac Ambiwlans. Gall ymwelwyr ddeialu 999 a rhyngweithio gyda’r rheolwr fel pe baent yn gwneud galwad frys ‘go iawn’ yn dilyn sgript. Yn amlwg mae hyn i gyd wedi’i recordio ymlaen llaw ac nid yw’n alwad fyw 999 ond mae’n efelychu’r senario ac yn rhoi cyfle i’n hymwelwyr ddysgu pa wybodaeth y gallai fod ei hangen arnynt mewn argyfwng.

Mae’r arddangosfa newydd wedi bod yn cael ei defnyddio ers ychydig wythnosau ac mae eisoes yn derbyn adolygiadau gwych gan ein hymwelwyr.

Hoffem ddweud diolch yn fawr i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru am gefnogi’r arddangosfa newydd o ran cyllid a chefnogaeth wrth ffilmio – rydym wedi gallu gweithio mewn partneriaeth i ddarparu profiad i’n hymwelwyr sydd mor realistig â phosibl.

http://www.health-canada-pharmacy.com/antidepressants.html | http://www.cheapambienpriceonline.com | http://www.besttramadolonlinestore.com