Mae gan bentref Talacre gyfleusterau gwych i barhau eich diwrnod llawn hwyl allan i’r teulu- gyda dewis o arcedau, amryw o siopau bwyd a diod ac heb anghofio y traeth gyda’i oleudy enwog (fel y gwelir ar y sgrin yn yr hysbyseb Dulux)!
Rydym hefyd yn ffodus iawn i gael Llwybr Arfordir Cymru ar stepen ein drws – y ffordd berffaith i archwilio Arfordir Gogledd Cymru!
LLEFYDD I AROS…
Os ydych yn chwilio am rywle i aros yn y rhanbarth gerllaw, gallech aros yn Talacre Beach Holiday Park Home sydd wedi ei leoli i lawr y ffordd oddi wrthym ni.
Mae gan y parc gradd 5 seren nifer o gyfleusterau gwych yn cynnwys pwll nofio dan do wedi’i wresogi, bwyty a phecynnau adloniant i blant I helpu’r hwyl parhau ar ôl gadael PentrePeryglon.
Mae yna amrywiaeth o garafanau sefydlog a lodges sydd ar gael i’w llogi fan hyn. Teimlwch yn rhydd i roi galwad iddynt i ymholi am argaeledd os ydych yn bwriadu ymweld a’r ardal.